Prif Siaradwr: Tim Smit
Tim Smit yw Prif Weithredwr a chyd-sylfaenydd yr Eden Project ger St Austell yng Nghernyw, prosiect sydd wedi ennill nifer helaeth o wobrau dros y blynyddoedd.
Ganed ef yn yr Iseldiroedd ar 25 Medi 1954. Astudiodd Archaeoleg ac Anthropoleg ym Mhrifysgol Durham cyn mynd ati i weithio am ddeng mlynedd yn y diwydiant cerddoriaeth fel cyfansoddwr/cynhyrchydd cerddoriaeth roc ac opera. Yn 1987, symudodd Tim i Gernyw ac yno y gwnaeth John Nelson ac yntau 'ddarganfod' ac yna adnewyddu Gerddi Coll Heligan ac mae'n Gyfarwyddwr y gerddi o hyd.
Yn 1995, breuddwyd yn unig oedd yr Eden Project ond agorodd ei ddrysau i'r cyhoedd yn 2000. Ers hynny, mae 12 miliwn o bobl wedi dod i weld yr hyn a oedd yn arfer bod yn bwll anffrwythlon ond sydd bellach yn fwrlwm o fywyd yn cynnwys garddwriaeth o'r radd flaenaf a phensaernïaeth drawiadol sy'n brawf o waith caled.
Mae Eden wedi cyfrannu dros £1 biliwn tuag at economi Cernyw. Mae Eden yn falch o'i lwyddiant wrth newid barn pobl am botensial defnyddio gwyddoniaeth, drwy gyfleu a dehongli cysyniadau gwyddonol drwy gyfrwng celf, drama ac adrodd storïau, yn ogystal â gwireddu ei genhadaeth i ymgymryd â rôl ganolog mewn adfywio lleol. Mae'n dangos unwaith ac am byth nad rhywbeth i lysieuwyr hipïaidd yw cynaliadwyedd, mae'n ymwneud ag arfer busnes da a gwerthoedd dinasyddiaeth y dyfodol.
Mae Tim yn Ymddiriedolwr, yn Noddwr ac yn Aelod o Fwrdd nifer o gyrff statudol a gwirfoddol yn lleol ac yn genedlaethol. Mae wedi ennill nifer o wahanol wobrau cenedlaethol, gan gynnwys Medal Albert Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Yn 2002, dyfarnwyd CBE Anrhydeddus iddo yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd ac yn 2011 fe'i apwyntiwyd yn Farchog Anrhydeddus gan ei Mawrhydi y Frenhines. Mae wedi derbyn Doethuriaeth a Chymrodoriaethau er Anrhydedd gan nifer o Brifysgolion a chafodd Tim ei anrhydeddu fel 'Great Briton of 2007' yng nghategori Amgylchedd Gwobrau Great Britons Morgan Stanley.
Mae wedi cyfrannu at nifer o raglenni teledu a radio, ac wedi bod yn destun 'This is Your Life' ac yn westai ar 'Desert Island Discs'. Mae'n siarad yn rheolaidd mewn cynadleddau, ciniawau a digwyddiadau eraill. Mae Tim wedi ysgrifennu llyfrau am Heligan ac Eden ac wedi cyfrannu at gyhoeddiadau ar amrywiaeth eang o bynciau. Mae'n byw ger Lostwithiel, Cernyw, ac yn ei amser hamdden mae'n mwynhau darllen, ffilmiau, cerddoriaeth a chelf.
Siaradwyr Eraill
- Andrew Conlan-Trant Cyfarwyddwr Gwasanaethau Marchnad Lafur Rehab Group
- Dr Martin Rhisiart Cyfarwyddwr, Canolfan Ymchwil Dyfodolion ac Arloesedd
- Ann Beynon OBE Cyfarwyddwraig Cymru BT
- Gulzari Babber Dirprwy Lywydd CIMA
- Cefin a Rhian Roberts Sylfaenwyr Ysgol Glanaethwy

























