Phil Ryan
Rheolwr Gyfarwyddwr Y Ganolfan Rheolaeth
Ymunodd Phil â thîm y Ganolfan Rheolaeth yng Ngorffennaf 2010 i oruchwylio ei rhedeg o ddydd i ddydd, datblygu'r gwasanaethau a gynigir a rhoi arweiniad gweithrediadol i'r Cyfarwyddwyr.
Mae gan Phil dros ugain mlynedd o brofiad yn y diwydiant gwasanaethau ariannol, gan weithio mewn swyddi strategol, adwerthu a busnes i fanc adwerthu mwyaf Prydain. Mae wedi bod mewn nifer o swyddi uwch yng Nghymru ac yn Sir Amwythig. Derbyniodd ei ACIB yn 1986.
Yn 2006 penodwyd Phil yn bennaeth rhwydwaith canghennau gydag un o'r prif gymdeithasau adeiladu ac, yn dilyn hynny, cafodd ddyrchafiad i arwain eu gweithgareddau gwerthu a marchnata yn llwyddiannus yn ystod dirwasgiad 2009/10 ym Mhrydain.
Er 1988 mae Phil hefyd wedi cymryd rhan flaenllaw mewn hyfforddi arweinwyr a rheolwyr - yn y lle cyntaf fel hyfforddwr hunangyflogedig i rwydwaith hyfforddi mwyaf y byd, ac yna drwy sefydlu ei fusnes ei hun i gynnig hyfforddiant mewn cyfathrebu, siarad cyhoeddus ac arwain, yng ngwledydd Prydain ac yn rhyngwladol. Yn ogystal, fe wnaeth Phil ysgrifennu a chyflwyno rhaglen arloesol ar feithrin hyder i fyfyrwyr a oedd yn tangyflawni. Defnyddiwyd y rhaglen hon yn helaeth mewn ysgolion yng Nghanolbarth Lloegr. Mae Phil yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd busnes hyfforddi sydd â statws elusennol. Gorffennodd Phil ei MBA ei hun yn 2004.
Siaradwyr Eraill
- Tim Smit Prif Weithredwr, yr Eden Project
- Dr Martin Rhisiart Cyfarwyddwr, Canolfan Ymchwil Dyfodolion ac Arloesedd
- Ann Beynon OBE Cyfarwyddwraig Cymru BT
- Gulzari Babber Dirprwy Lywydd CIMA
- Cefin a Rhian Roberts Sylfaenwyr Ysgol Glanaethwy

























