Goleuo'r Gogledd 2011 Venue Cymru Llandudno, Dydd Gwener 4ydd Tachwedd

Dr Martin Rhisiart

Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Dyfodolion ac Arloesedd
Ysgol Fusnes Morgannwg, Prifysgol Morgannwg

Mae Martin yn arbenigwr ym maes dyfodolion strategol ac arloesedd - meysydd y mae'n ymchwilio iddynt, yn ymgynghori ac yn cyflwyno arnynt ar lefel ryngwladol. Mae llawer o'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar ddau gwestiwn allweddol:

Pa effaith gaiff newidiadau economaidd, technolegol a chymdeithasol ar sefydliadau?

Sut gall ail-gynllunio'r dyfodol, gydag amodau a rhagdybiaethau gwahanol, fod yn sail i'r penderfyniadau a wnawn heddiw?

Mae gan Martin brofiad helaeth o gynllunio a chyflwyno prosiectau ymchwil, aseiniadau ymgynghori, cyrsiau hyfforddi a gweithdai ar bynciau megis tueddiadau a gyrwyr technoleg byd-eang, creu senarios ac arloesedd.

Ymhlith ei aseiniadau diweddar mae Eco-Innova, prosiect ymchwil rhyngwladol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eco-arloesedd; Prosiect Foresight ar yrwyr a thueddiadau byd-eang a blaenoriaethu Ymchwil a Datblygiad ar gyfer Forfás, y corff ymgynghorol cenedlaethol ar bolisïau ar gyfer mentergarwch a gwyddoniaeth yn Iwerddon.

Mae hefyd wedi cynnal gweithdai hyfforddiant ar senarios ar gyfer llunwyr penderfyniadau yn Senedd Ewrop yn ogystal â phrosiect ymchwil rhyngwladol ar addasu i newid yn yr hinsawdd.

Martin sefydlodd y Ganolfan Ymchwil Dyfodolion ac Arloesedd yn Ysgol Fusnes Morgannwg yn 2008 ar ôl gweithio yn Ysgol Fusnes Caerdydd  rhwng 1999 a 2008

Mae'n Gadeirydd Grwp y Deyrnas Unedig ar gyfer y Millennium Project, seiat syniadau fyd-eang sy'n ystyried y dyfodol

Martin Rhisiart

Siaradwyr Eraill

Noddwyr

© 2007 - 2011 Goleuo'r Gogledd. Hawliau wedi'u gwarchod. Telerau & Amodau| Polisi Preifatrwydd | Map y Safle. Dyluniad Safle Kate Watkiss.