Goleuo'r Gogledd:  Creu Cyfleoedd 10fed Tachwedd 2009

Henry Engelhardt Prif Weithredwr yr Admiral Group

Henry Engelhardt yr Prif Weithredwr Grŵp Admiral, un o’r cwmnïau yswiriant mwyaf llwyddiannus o’r holl gwmnïau yswiriant ymateb uniongyrchol yn y DU.

Ganol 1991 cafodd ei recriwtio i greu a rhedeg yr hyn a adnabyddir bellach fel yr Admiral Group. Cafodd Admiral ei lansio ar amser ac o dan ei gyllideb ar 2 Ionawr o'u pencadlys yng Nghaerdydd. Erbyn hyn mae gan y cwmni dros 1,900,000 o ddeiliaid polisi a dros 3,000 o weithwyr.

Ceir naw brand dan ymbarel yr Admiral Group, Admiral, Bell, Confused.com, Diamond, elephant.co.uk a Gladiator Commercial yn y DU, Balumba.es a Rastreator.com yn Sbaen, AdmiralDirekt.de yn yr Almaen a ConTe yn yr Eidal. Roedd trosiant yn 2008 dros £900m ac roedd elw yn 2008, y flwyddyn lawn ddiweddaraf y cyhoeddwyd ffigurau ar ei chyfer, yn £202m.

Ym mis Medi 2004 rhestrodd Admiral ei gyfranddaliadau ar Gyfnewidfa Stoc Llundain. Roedd y cwmni werth £711m ar y diwrnod hwnnw. Ers hynny mae cyfranddaliadau Admiral wedi cael eu prynu a’u gwerthu am gymaint â £11.95. Heddiw, mae’r cwmni werth oddeutu £2.3 biliwn ac mae Admiral yn un o’r cwmnïau yn y FTSE 100.

Mae Admiral hefyd wedi ennill llu o wobrau, gan gynnwys Busnes y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Cenedlaethol 2004 a Chyflogwr y Flwyddyn yn yr un seremoni yn 2005, Cwmni Cymreig y Flwyddyn yn 1999 ac yn 2005 ac mae wedi cael ei enwi ymhlith y 100 Cwmni Gorau i Weithio Iddynt yn y DU gan y Sunday Times bob blwyddyn ers llunio’r rhestr.

Cyn dechrau Admiral, Henry Engelhardt oedd Rheolwr Marchnata a Gwerthu Yswiriant Churchill.

Americanwr yw Henry Engelhardt ac mae wedi gweithio yn UDA, y DU a Ffrainc mewn gwasanaethau ariannol ymateb uniongyrchol. Mae ganddo MBA gan Insead, Fountainebleau, Ffrainc a BA o Brifysgol Michigan, Ann Arbor, Mi. UDA

Mae’n briod a chanddo bedwar o blant ac yn byw yng Nghaerdydd.

Henry Engelhardt

Uchafbwyntiau Eraill

Noddwyr

© 2009 Goleuo'r Gogledd. Hawliau wedi'u gwarchod. Dyluniad Safle Kate Watkiss.