Greg Evans Enillydd un o Wobrau Arweinyddiaeth Arwain Cymru/Leading Wales yn 2009
Ymunodd Greg Evans â Wylfa ym mis Ebrill 2001 lle treuliodd dair blynedd fel Rheolwr Cynhyrchu. Wedi blwyddyn yn Nhrawsfynydd fel Rheolwr Safle, dychwelodd Greg i Wylfa lle mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Safle er mis Gorffennaf 2005.
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf fel Cyfarwyddwr Safle, mae wedi gweddnewid Wylfa yn weithredwr niwclear sydd gyda’r gorau yn y byd ac mae’n un o’r enghreifftiau gorau yn nhyb Cymdeithas Gweithredwyr Niwclear y Byd (WANO). Mae’r Safle wedi ennill nifer o wobrau pwysig gan gynnwys y safle niwclear cyntaf yn y byd i gael Cleddyf Anrhydedd Cyngor Diogelwch Prydain a’r cyntaf i gael Gwobr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol gan y Safon Iechyd Corfforaethol ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru a Gwobr Aur ROSPA ar gyfer Diogelwch Galwedigaethol.
Dechreuodd gyrfa Greg yn y maes niwclear yn 1975 ar Longau Tanfor UDA, ac yna enillodd brofiad fel goruchwyliwr shifftiau mewn nifer o Orsafoedd Pŵer Niwclear Americanaidd. Ymunodd â Nuclear Electric ar dîm Sizewell B yn 1990 fel Pennaeth Cynllunio a Rheoli Gwaith. Gadawodd gwmni British Energy yn 1998 i ymuno â Magnox fel Peiriannydd Gwaith Shifft yng Ngorsaf Bŵer Bradwell.
Mae Greg ar dân dros arweinyddiaeth a datblygu pobl ifanc. Mae’n aelod gweithredol o’r Sefydliad Rheolwyr Siartredig (CMI) ac yn 2009 enillodd Wobr Arweinyddiaeth Ranbarthol y CMI. Cafodd ei gydnabod ymhellach yn 2009, fel arweinydd ysbrydoledig sy’n gwneud gwahaniaeth i ffyniant Cymru yn y dyfodol, pan enillodd Wobr Arweinydd Arwain Cymru/Leading Wales (ar gyfer busnesau gyda mwy na 250 o weithwyr).
Ym mis Medi eleni, derbyniodd Greg swydd fel Pennaeth Niwclear gyda Centrica plc sydd a phwyslais arbennig ar adeiladu newydd y diwydiant Niwclear yn y DU.
Uchafbwyntiau Eraill
- Henry Engelhardt Prif Weithredwr yr Admiral Group
- Claire Robertson O Woolworths i Wellworths









