Cefin a Rhian Roberts
Sylfaenwyr Ysgol Glanaethwy
Cefin a Rhian Roberts yw'r cwpl priod y tu ôl i Ysgol Glanaethwy, yr ysgol berfformio sydd wedi derbyn clod eithriadol dros y blynyddoedd. Sefydlwyd yr ysgol yn 1990 ac mae'n dathlu ei phen-blwydd yn un ar hugain eleni.
Yn ystod y blynyddoedd cyntaf, enillodd yr ysgol nifer o gystadlaethau mewn eisteddfodau cenedlaethol yn ogystal â chyrraedd y brig yng ngwyl Music For Youth a Gwyl Gerddoriaeth Barclays. Ond cystadlu yn y rhaglen Last Choir Standing ddaeth ag Ysgol Glanaethwy i sylw cynulleidfaoedd ar draws Prydain. Enillodd eu perfformiadau gwefreiddiol galonnau'r gwylwyr a lle haeddiannol yn y rownd derfynol. Ers hynny maen nhw wedi derbyn llu o geisiadau o bob rhan o'r DU a thu hwnt i gynnal cyngherddau.
Cyfarfu Cefin a Rhian am y tro cyntaf pan oedd y ddau ohonyn nhw'n cystadlu fel unawdwyr mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Er iddyn nhw gystadlu yn erbyn ei gilydd yn ystod eu harddegau, mi ffurfion nhw ddeuawd lwyddiannus hefyd a dyna pryd y dechreuodd eu partneriaeth ffynnu.
Bu'r ddau yn astudio Cymraeg a Cherddoriaeth yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac aeth Cefin ymlaen i astudio actio yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.
Ddechrau'r wythdegau mi ffurfion nhw Hapnod, grwp harmoni clos poblogaidd iawn, gan recordio tair cyfres adloniant ysgafn ar gyfer S4C. Bu'r ddau'n gweithio fel actorion ac athrawon tan ddiwedd yr wythdegau ond roedden nhw bob amser wedi breuddwydio am agor eu hysgol berfformio eu hunain.
Yn 1990 penderfynwyd mynd amdani a chychwyn drwy logi ystafelloedd ymarfer a mannau anghyffredin a diddorol eraill i gychwyn eu busnes. Oherwydd y galw eithriadol am lefydd yn yr ysgol, aethpwyd ati i brynu darn o dir ym Mharc Busnes Parc Menai yn 1995 ac yno yr adeiladwyd Ysgol Glanaethwy.
Yn yr adeilad hwn, mae Cefin a Rhian wedi meithrin sgiliau a thalent cenhedlaeth o bobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru. Mae llawer yn ymddangos ar lwyfan y West End yn Llundain ac ar raglenni teledu a radio cenedlaethol tra bo eraill yn arweinwyr yn ein cymunedau. Derbyniodd Cefin a Rhian gymrodoriaethau er anrhydedd gan Brifysgol Bangor yn 2001 am eu cyfraniad i fywydau pobl ifanc drwy gyfrwng yr ysgol.
Mae disgyblion Ysgol Glanaethwy wedi rhannu llwyfan gyda Shirley Bassey, Catherine Jenkins, Catherine Zeta Jones, Cleo Lane a Johnny Dankworth, Wayne Sleep, Prunella Scales, Ioan Gruffydd, Bryn Terfel a llawer mwy.
Maen nhw wedi perfformio ym Mwlgaria, Hwngari, Yr Eidal, Y Swistir, Gweriniaeth Siec, Wcrain, Iwerddon, Yr Alban a Lloegr a llynedd mi wnaethon nhw gynrychioli Cymru yng Ngemau Corawl y Byd 2010 yn Shaoxing, Tsieina, a dychwelyd adref gyda dwy wobr aur ac un wobr arian.
Mae Ysgol Glanaethwy yn enghraifft eithriadol o ddiwydiant creadigol y rhanbarth ar ei orau. Bydd Cefin a Rhian yn rhannu'r llawenydd a'r heriau a wynebwyd wrth sefydlu ysgol berfformio gyda'r gorau yn y byd yma yng Ngogledd Cymru.
Bydd aelodau criw Ysgol Glanaethwy hefyd yn cyfrannu at y digwyddiad gydol y dydd gan sicrhau y bydd Goleuo'r Gogledd yr un mor ysgogol ac ysbrydoledig ag erioed!
Siaradwyr Eraill
- Tim Smit Prif Weithredwr, yr Eden Project
- Andrew Conlan-Trant Cyfarwyddwr Gwasanaethau Marchnad Lafur Rehab Group
- Dr Martin Rhisiart Cyfarwyddwr, Canolfan Ymchwil Dyfodolion ac Arloesedd
- Ann Beynon OBE Cyfarwyddwraig Cymru BT
- Gulzari Babber Dirprwy Lywydd CIMA

























