Goleuo'r Gogledd:  Creu Cyfleoedd 10fed Tachwedd 2009

Claire Robertson O Woolworths i Wellworths

Ym mis Mawrth 2009, yng nghanol y penawdau negyddol, daeth un o reolwyr Woolworths, Claire Robertson, yn enw adnabyddus ac fe roddodd obaith i nifer o fusnesau wrth iddi herio’r dirwasgiad ac ailsefydlu ei siop yn Dorchester fel Wellworths.

Wrth i adroddiadau’r cyfryngau ganolbwyntio ar dranc dros 800 o siopau Woolworths ar draws y wlad, enillodd Claire gefnogaeth ariannol consortiwm dan arweiniad perchennog yr adeilad. Galluogodd hyn iddi wireddu ei breuddwyd o ailagor ei siop. Roedd hi’n gwbl ymwybodol bod y siop yn Dorchester yn gwneud elw ac mewn lleoliad da yn y dref ac fe roddodd cefnogaeth ei staff yr hyder angenrheidiol iddi i achub ar y cyfle unigryw hwn.

Ymunodd Claire â Woolworths pan oedd hi’n 15 oed gan weithio ar ddydd Sadwrn yn y siop yn Yeovil. Cafodd ei hyfforddi i fod yn rheolwr cynorthwyol a hithau’n 19 oed ac ar ôl treulio amser mewn siopau eraill, dychwelodd fel Rheolwr y siop yn Dorchester am bum mlynedd cyn iddi gau.

Cafodd y siop Wellworths ei lansio’n swyddogol ar 11eg Mawrth 2009 gan y DJ Chris Evans. Daeth cannoedd o bobl i’r agoriad i ddymuno’n dda a denodd y lansiad sylw’r cyfryngau o bedwar ban byd.

Ailgyflogodd Claire ddau ddeg un o’r staff gwreiddiol, roedd nifer ohonynt wedi bod yn gweithio i Woolworths ers dros dri deg o flynyddoedd. ‘Wellies’ yw’r enw lleol am Wellworths, ac mae’n siop deuluol agos atoch chi sy’n cynnig yr hyn mae pobl eu hangen a hynny am bris teg. Mae’r siop newydd yn gwerthu deunyddiau i’r gegin, DIY, teganau, nwyddau parti a deunyddiau tymhorol ac yn cynnwys y melysion Pick ‘n’ Mix enwog.

Gwta dri mis ar ôl ei lansio, croesawodd Wellworths eu 100,000fed cwsmer.

Henry Engelhardt

Uchafbwyntiau Eraill

  • Henry Engelhardt Prif Weithredwr yr Admiral Group
  • Greg Evans Enillydd un o Wobrau Arweinyddiaeth Arwain Cymru/Leading Wales yn 2009

Noddwyr

© 2009 Goleuo'r Gogledd. Hawliau wedi'u gwarchod. Dyluniad Safle Kate Watkiss.