Goleuo'r Gogledd 2011 Venue Cymru Llandudno, Dydd Gwener 4ydd Tachwedd

Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC

Prif Weinidog Cymru

Cyflwyniad Fideo

Cafodd Carwyn Jones ei eni yn 1967 a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr, ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac yn Ysbytai'r Frawdlys, Llundain. Cyn ei ethol, roedd yn fargyfreithiwr mewn siambrau yn Abertawe yn arbenigo yng Nghyfraith Troseddau, Teulu a Niwed Personol, ac yn diwtor proffesiynol yn Ysgol Gyfraith Prifysgol Cymru Caerdydd. Bu'n Gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr ac yn Gadeirydd y Grwp Llafur ar y Cyngor. Mae hefyd yn aelod o Amnest Ryngwladol, UNSAIN, Uno'r Undeb a Chymdeithas y Ffabiaid. Mae wedi bod yn aelod o'r Blaid Lafur ers 1987 ac fe chwaraeodd ran amlwg yn ymgyrch 'Ie Dros Gymru'.

Cafodd Carwyn Jones ei benodi'n Is-ysgrifennydd ym mis Mawrth 2000 a disodlodd Christine Gwyther fel yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ar drothwy Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf 2000.

Ym mis Mawrth 2002 ychwanegwyd rôl y Trefnydd at ei bortffolio Materion Gwledig. Ym mis Mehefin 2002 cafodd ei benodi'n Weinidog dros Lywodraeth Agored. Ym mis Mai 2003 cafodd ei benodi'n Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad. Ym mis Mai 2007 fe gafodd ei apwyntio fel Gweinidog ar gyfer Addysg, Diwylliant a'r Iaith Gymraeg ac ers mis Gorffennaf 2007 fe gafodd ei apwyntio fel Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Ty. Yn dilyn Rhodri Morgan AC yn ymddeol yn fis Rhagfyr 2009, fe gafodd ei apwyntio fel Prif Weinidog Cymru.

Fe'i penodwyd i'r Cyfrin Gyngor ar y 9fed o Fehefin 2010.

Ei ddiddordebau yw chwaraeon, darllen a theithio. Mae'n rhugl yn y Gymraeg.

Carwyn Jones

Siaradwyr Eraill

Noddwyr

© 2007 - 2011 Goleuo'r Gogledd. Hawliau wedi'u gwarchod. Telerau & Amodau| Polisi Preifatrwydd | Map y Safle. Dyluniad Safle Kate Watkiss.