Siaradwr Gwadd: Ann Beynon OBE
Mae Ann wedi gweithio mewn swyddi blaenllaw yn y sector preifat a chyhoeddus. Fel Cyfarwyddwraig Cymru BT, hi yw uwch-gynrychiolydd y cwmni ac mae'n goruchwylio ei agenda polisi a masnachol yng Nghymru.
Mae'r swydd hon yn gofyn am wybodaeth drylwyr o bob agwedd ar weithgareddau masnachol BT ar draws ei holl linellau busnes yn cynnwys ymgysylltiad â thimau CSR, materion cyhoeddus a pholisi canolog BT. Mae Ann yn rheoli perthynas BT â Llywodraeth Cymru a llunwyr barn allweddol.
Hi yw Comisiynydd Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac mae hi'n eistedd ar Fwrdd y DU a'i Bwyllgor Archwilio a Risg, yn ogystal â chadeirio Pwyllgor Cymru.
Penodwyd Ann yn Llysgennad Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru i'r gymuned yng Nghymru yn 2007, a bu'n cadeirio elusen Ei Uchelder Brenhinol, Busnes yn y Gymuned yng Nghymru gan eistedd ar Fwrdd y DU am dair blynedd.
Penodwyd hi gan y Prif Weinidog ar y pryd yn aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar gyfer rôl T?'r Arglwyddi o 1999-2000.
Mae hi wedi gweithio ym maes adfywio trefol fel Cyfarwyddwr Datblygu Busnes yng Nghorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd, ac ym maes polisi cyfryngau y DU ac Ewrop fel Pennaeth Materion Ewropeaidd a Chyhoeddus S4C.
Mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol y DU; yn aelod o Gyngor Prifysgol Bangor (ac yn aelod o'r Pwyllgor Ymchwilio a Risg a'r Pwyllgor Tâl); ac yn aelod o Gyngor y Gymdeithas Deledu Frenhinol.
Dyfarnwyd OBE i Ann yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2008, am ei chyfraniad at fusnes a gwasanaethau elusennol.
Mae ganddi radd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor ac mae'n siarad Cymraeg, Saesneg a Ffrangeg yn rhugl.
Siaradwyr Eraill
- Tim Smit Prif Weithredwr, yr Eden Project
- Andrew Conlan-Trant Cyfarwyddwr Gwasanaethau Marchnad Lafur Rehab Group
- Dr Martin Rhisiart Cyfarwyddwr, Canolfan Ymchwil Dyfodolion ac Arloesedd
- Gulzari Babber Dirprwy Lywydd CIMA
- Cefin a Rhian Roberts Sylfaenwyr Ysgol Glanaethwy

























