Goleuo'r Gogledd 2011 Venue Cymru Llandudno, Dydd Gwener 4ydd Tachwedd

Siaradwr Gwadd: Anna Ryder Richardson

Dylunydd poblogaidd Changing Rooms a chyn-gystadleuydd 'I'm a Celebrity ... Get Me Out of Here' yw Anna Ryder Richardson.

Fe'i hysbrydolwyd gan ei phrofiad yn y jyngl, a neidiodd ar y cyfle i brynu parc bywyd gwyllt yn Sir Benfro, gan symud ei theulu o Glasgow i ddatblygu'r fenter. Dilynwyd yr holl droeon trwstan gan gyfres y BBC wrth iddynt fwrw ati i greu Parc Bywyd Gwyllt unigryw sydd â phwyslais ar gadwraeth.

Ymunwch â ni i ddarganfod mwy am sut wnaeth Anna'r naid o fod yn ddylunydd cartrefi Changing Rooms i fod yn berchennog Sw Wyllt yng Nghymru.

www.manorhousewildlifepark.co.uk

Anna Ryder Richardson

Siaradwyr Eraill

Noddwyr

© 2007 - 2011 Goleuo'r Gogledd. Hawliau wedi'u gwarchod. Telerau & Amodau| Polisi Preifatrwydd | Map y Safle. Dyluniad Safle Kate Watkiss.