Goleuo'r Gogledd 2011 Venue Cymru Llandudno, Dydd Gwener 4ydd Tachwedd

Siaradwr Gwadd: Andrew Conlan-Trant

Andrew Conlan-Trant yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Marchnad Lafur Rehab Group, darparwr blaenllaw yn y trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau a chefnogaeth i bobl dan anfantais gymdeithasol yn Iwerddon, y DU a chyfandir Ewrop.

Yn rhinwedd y swydd honno, mae Andrew hefyd yn arwain TBG Learning, adran cefnogaeth sgiliau a chyflogaeth Rehab, sy'n gweithredu yn y DU ac yn Iwerddon, ac ef yw Cyfarwyddwr Rehab JobFit LLP.

Mae'r Rehab Group a phartneriaeth Interserve, Rehab JobFit, wedi cael dau gontract rhanbarthol i gyflawni'r Rhaglen Waith yng Nghymru a De Orllewin Lloegr. Mae JobFit yn bartneriaeth ddeinamig a ffres, sy'n cyfuno arbenigedd, brwdfrydedd ac amrywiaeth eang o sgiliau a fydd yn sicrhau y caiff y Rhaglen Waith ei chyflawni'n llwyddiannus yn yr ardaloedd hyn.

Mae JobFit yn darparu pecyn o gefnogaeth, hyfforddiant, cymwysterau a chyngor sydd wedi'i deilwra i helpu unigolion i ddychwelyd i'r gwaith. Mae'r gweithgareddau'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n fwyaf tebygol o sicrhau canlyniad cadarnhaol – sef cyflogaeth gynaliadwy.

Mae gan Andrew brofiad helaeth ym maes rheoli busnes. Treuliodd ei yrfa gynnar yn y sector telegyfathrebiadau, yn gweithio mewn swyddi ym maes marchnata, cyfathrebiadau, rheoli cynnyrch a gweithrediadau. Yn dilyn hynny, datblygodd ei yrfa i faes gofal cymdeithasol ac anfantais, lle mae wedi gweithio gyda sefydliadau, ac wedi bod yn sylfaenydd sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i bobl sydd dan anfantais gymdeithasol ddifrifol, gan gynnwys y rheini sy'n ddigartref, pobl sy'n camddefnyddio sylweddau ac eraill.  

Gan weithio gyda nifer o ddarparwyr cefnogaeth arbenigol a phartneriaid ledled Gogledd Cymru sy'n darparu o'r dechrau i'r diwedd, mae JobFit yn canolbwyntio ar sicrhau cynaliadwyedd; drwy gyflawni canlyniadau cyflogaeth hirdymor ar gyfer ei gwsmeriaid.

Andrew Conlan-Trant

Siaradwyr Eraill

Noddwyr

© 2007 - 2011 Goleuo'r Gogledd. Hawliau wedi'u gwarchod. Telerau & Amodau| Polisi Preifatrwydd | Map y Safle. Dyluniad Safle Kate Watkiss.