Prif Siaradwyr
Dylan Jones
Cyflwynydd y Gynhadledd
BBC Cymru Wales
Cafodd Dylan Jones ei eni a'i fagu ar fferm ym mhentref Capel Garmon ger Llanrwst yn Nyffryn Conwy.
Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC
Prif Weinidog Cymru
Cyflwyniad Fideo
Cafodd Carwyn Jones ei eni yn 1967 a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr, ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac yn Ysbytai'r Frawdlys, Llundain.
Tim Smit KBE
Prif Weithredwr a chyd-sylfaenydd yr Eden Project
Tim Smit yw Prif Weithredwr a chyd-sylfaenydd yr Eden Project ger St Austell yng Nghernyw, prosiect sydd wedi ennill nifer helaeth o wobrau dros y blynyddoedd.
Andrew Conlan-Trant
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Marchnad Lafur Rehab Group
Andrew Conlan-Trant yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Marchnad Lafur Rehab Group, darparwr blaenllaw yn y trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau a chefnogaeth i bobl dan anfantais gymdeithasol yn Iwerddon, y DU a chyfandir Ewrop.
Dr Martin Rhisiart
Cyfarwyddwr, Canolfan Ymchwil Dyfodolion ac Arloesedd Ysgol Fusnes Morgannwg, Prifysgol Morgannwg
Mae Martin yn arbenigwr ym maes dyfodolion strategol ac arloesedd - meysydd y mae'n ymchwilio iddynt, yn ymgynghori ac yn cyflwyno arnynt ar lefel ryngwladol.
Phil Ryan
Rheolwr Gyfarwyddwr Y Ganolfan Rheolaeth
Ymunodd Phil â thîm y Ganolfan Rheolaeth yng Ngorffennaf 2010 i oruchwylio ei rhedeg o ddydd i ddydd, datblygu'r gwasanaethau a gynigir a rhoi arweiniad gweithrediadol i'r Cyfarwyddwyr.
Ann Beynon OBE
Cyfarwyddwraig Cymru BT
Mae Ann wedi gweithio mewn swyddi blaenllaw yn y sector preifat a chyhoeddus. Fel Cyfarwyddwraig Cymru BT, hi yw uwch-gynrychiolydd y cwmni ac mae'n goruchwylio ei agenda polisi a masnachol yng Nghymru.
Gulzari Babber
Dirprwy Lywydd CIMA
Gulzari Babber yw Dirprwy Lywydd CIMA ac mae'n un o Aelodau Cofrestredig mewn Practis y Sefydliad. Mae wedi rhedeg ei bractis cyfrifyddiaeth a threth ei hun yn Harrow, Gorllewin Llundain ers 1985.


























