Goleuo'r Gogledd 2010 Venue Cymru Llandudno, Friday 12fed Tachwedd

Goleuo'r Gogledd 2010 Dydd Gwener 12fed Tachwedd Venue Cymru Llandudno

Hon yw'r bedwaredd flwyddyn i ni gynnal Goleuo'r Gogledd ac erbyn hyn mae'r gynhadledd wedi ennill ei phlwyf fel digwyddiad pwysig yng nghalendr busnes y rhanbarth.

Nod y gynhadledd yw ysbrydoli, addysgu a dod â busnesau a sefydliadau ynghyd i greu cysylltiadau gwerthfawr. Eleni bydd pwyslais ar Reoli Newid, pwnc y bydd angen i'r sector preifat a chyhoeddus fynd i'r afael ag ef dros y blynyddoedd nesaf.

Ymunwch â ni i ddysgu mwy am y cyd-destun economaidd presennol, i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio ac i gael eich ysbrydoli wrth wynebu'r cyfnod o newid sydd o'n blaenau.

I fod yn rhan o brif ddigwyddiad busnes Gogledd Cymru: cofrestrwch.

Cyfweliadau Fideo

Michael Learmond

Cadeirydd Goleuo'r Gogledd 2010 - Trefnydd Rhanbarthol FfBB

Robert Lloyd Griffiths

Cyfarwyddwr: Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru

Prif Noddwyr

Pam ddylech chi fynychu'r gynhadledd?

  • Dysgwch sut i fod yn fwy llwyddiannus gan un o'r prif siaradwyr ysgogol, Steve McDermott
  • Ystyriwch ffyrdd newydd o weithio gyda Doctor Busnes BBC Cymru Dr. Paul Thomas
  • Datblygwch sgiliau newydd a chreu cyfleoedd
  • Rhwydweithio gwych gydol y dydd
  • Arddangosfa eang gyda chynrychiolwyr o'r sector preifat a chyhoeddus

Pwy fydd yno?

  • Arweinwyr busnes a gwleidyddion
  • Cynrychiolwyr amrywiol gyrff proffesiynol
  • Rheolwyr a pherchnogion busnesau bach a chanolig
  • Arweinyddion a rheolwyr o'r sector cyhoeddus a gwirfoddol

Cysylltwch â ni

Noddwyr

© 2010 Goleuo'r Gogledd. Hawliau wedi'u gwarchod. Telerau & Amodau| Polisi Preifatrwydd | Map y Safle. Dyluniad Safle Kate Watkiss.