DYDD GWENER 7 TACHWEDD 2008
VENUE CYMRU, LLANDUDNO 9.00 – 4.30

Ymunwch â ni yn Venue Cymru, Llandudno, ar gyfer Goleuo'r Gogledd - Dyfodol Cynaliadwy, digwyddiad unigryw fydd yn ystyried ffyrdd y gall busnesau a sefydliadau gynllunio ar gyfer dyfodol llewyrchus o fewn cyd-destun economaidd heriol.

Cyflwynir y digwyddiad gan Fforwm Economaidd Gogledd Cymru ac mae'n ffrwyth cydweithio positif rhwng deuddeg o gyrff proffesiynol. Bydd y gynhadledd eleni'n brofiad fydd yn ysbrydoli ac yn ysgogi syniadau ac mae'n adeiladu ar ddigwyddiad arloesol y llynedd, Goleuo'r Gogledd - Amser i Ddisgleirio.

Bwriad Goleuo'r Gogledd: Dyfodol Cynaliadwy yw dod â phobl at ei gilydd i greu cysylltiadau buddiol ac i ysgogi trafodaeth am y modd yr ydym yn cael ein herio i newid ein ffordd o weithio yn yr unfed ganrif ar hugain. Bydd y gynhadledd yn ystyried ffyrdd o ddatblygu mentrau llwyddiannus, proffidiol sydd hefyd yn cymryd eu cyfrifoldebau cymdeithasol ac amgylcheddol o ddifrif. Ymunwch â ni i ddarganfod sut all mabwysiadu dull ‘llinell isaf driphlyg' o weithio gynorthwyo wrth greu busnesau ffyniannus a chynaliadwy ar draws Gogledd Cymru.

Bydd David Smith, Prif Weithredwr cwmni Global Futures and Foresight, yn ymuno â ni i gynnig syniadau am y modd medrwn ddod yn fwy llwyddiannus ac yn llai agored i risg drwy ddeall y cyfleoedd a'r bygythiadau sy'n ein hwynebu dros y pum mlynedd nesaf.

Hefyd yn annerch y gynhadledd fydd Deirdre Bounds, un o entrepreneuriaid mwyaf creadigol a llwyddiannus Prydain, a weddnewidiodd ei bywyd o fewn deng mlynedd gan symud o dlodi i fod yn filiwnydd sawl gwaith drosodd, pan werthodd ei chwmni teithio moesol, i-to-i, i'r gorfforaeth deithio fwyaf yn y byd. Trwy fod yn benderfynol a gweithio'n galed mae hi wedi gwneud ei marc o fewn y diwydiant teithio trwy newid delwedd pobl o'r mudiad ‘teithio cyfrifol'.

Agorir y gynhadledd yn swyddogol gan Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gyda sesiynau grwp llawn gwybodaeth ddefnyddiol, arddangosfa fusnes sylweddol a chyfleoedd gwych i rwydweithio drwy'r dydd, mae Goleuo'r Gogledd - Dyfodol Cynaliadwy yn ddigwyddiad na ddylech ei golli!

I ymuno â phrif ddigwyddiad busnes y Gogledd a mwynhau diwrnod o brif anerchiadau cofiadwy, profiadau dysgu gwerthfawr a rhwydweithio adeiladol cliciwch yma.

Wales Management Council [link to website] Cima Global [link to website] Institute of Directors [link to website] Chartered Management Institute [link to website] ACCA Global [link to website] School of Finance [link to website] The Chartered Insitute of Marketing [link to website] FSB [link to website] Institute of Leadership and Management [link to website] The Chartered Insitute of Public Finance and Accountancy [link to website] Management Development Network [link to website]