10fed Tachwedd 2009 Venue Cymru Llandudno Goleuo'r Gogledd: Creu Cyfleoedd
Ymunwch â ni yn Venue Cymru, Llandudno ar gyfer Goleuo'r Gogledd: Creu Cyfleoedd, digwyddiad unigryw fydd yn ystyried ffyrdd o sicrhau dyfodol disglair i Ogledd Cymru.
Mae gofyn meddwl a gweithredu mewn ffordd wahanol o dan amgylchiadau economaidd na welwyd o’r blaen. Bydd cynhadledd eleni yn cynorthwyo busnesau a sefydliadau i ddatblygu dulliau newydd i’w helpu i lywio drwy’r hinsawdd bresennol ac i’w paratoi ar gyfer cyfnod mwy llewyrchus.
Ffederasiwn y Busnesau Bach sy’n cyflwyno’r gynhadledd eleni ac mae’n bosibl drwy gydweithrediad positif ystod o gyrff proffesiynol a phartneriaid allweddol. Bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar helpu mynychwyr i ganfod cyfleoedd newydd, cyflwyno arferion busnes arloesol a datblygu diwylliant creadigol er mwyn goroesi, ffynnu a llwyddo.
Unwaith eto, mae partneriaid y gynhadledd wedi datblygu rhaglen ysbrydoledig sy’n procio’r meddwl ac a fydd yn cynnwys cyflwyniadau gan:-
Henry Engelhardt Prif Weithredwr Grŵp Admiral – un o’r cwmnïau yswiriant mwyaf llwyddiannus o’r holl gwmnïau yswiriant ymateb uniongyrchol yn y DU. Mae Admiral wedi cael ei enwi ymhlith y 100 Cwmni Gorau i Weithio Iddynt yn y DU gan y Sunday Times ers i’r rhestr ddechrau 9 mlynedd yn ôl.
Claire Robertson Y rheolwr Woolworths a heriodd y dirwasgiad yng nghanol y penwadau negyddol ac ailsefydlu ei siop fel Wellworths.
Greg Evans Enillydd un o Wobrau Arweinyddiaeth Arwain Cymru/Leading Wales yn 2009 a oedd yn cydnabod ei arweinyddiaeth ysbrydoledig a’i gyfraniad arbennig tuag at ffyniant Cymru.
Gyda sesiynau dysgu llawn gwybodaeth, arddangosfa fusnes eang a chyfleoedd rhwydweithio gwych gydol y dydd, mae Goleuo'r Gogledd: Creu Cyfleoedd yn ddigwyddiad na ddylech ei golli.
Er mwyn bod yn rhan o brif ddigwyddiad busnes Gogledd Cymru: Cofrestrwch yma.
Cyflwynir y gynhadledd gan
Pam ddylech fynychu'r gynhadledd?
- Siaradwyr ysbrydoledig Henry Engelhardt, Claire Robertson a Greg Evans
- Sesiynau dysgu ar y thema Creu Cyfleoedd
- Darganfyddwch sut i ddatblygu diwylliant arloesol a chreadigol o fewn eich mudiad
- Dysgwch am dueddiadau'r dyfodol a chyfleoedd i'ch busnes
- Rhwydweithio gwych gydol y dydd i feithrin cysylltiadau busnes
- Arddangosfa gyda chynrychiolwyr o'r sector preifat a chyhoeddus
Goleuo'r Gogledd 2008: Dyfodol Cynaliadwy
Galeri Cynhadledd Goleuo'r Gogledd 2008
Ymwelwch â gwefan Goleuo'r Gogledd - Dyfodol Cynaliadwy 2008










